Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Buddug James Jones

Pan fydda i’n edrych trwy ffenest ôl y car a gweld absoliwt ffycin llanast fydda i’n meddwl am Buddug gan amla. Dydi nghar i ddim cweit mor wael; ond morio trwy sgriptiau, llysiau, props a llyfrau llyfrgell coll i ffeindio lle i eistedd ydi’n atgof o fod gyda hi. Roedd hi’n bod yn gallu bod yn flin, yn hwyr ac arbennig o flaky, ond awel bore cynnar ac eistedd yng nghefn y car, ar y ffordd i neno’rble dwi’n ei gofio’n bennaf.

Dwi’n credu’n gryf yng ngallu’r celfyddydau i wella ein safon byw, ond dysgodd Buddug ifi beidio a chymryd hynny gormod o ddifri. Roedd y profiad o wisgo fyny fel corrach cas gystal â chwarae rôl yn Beckett neu Churchill – i’r enaid, ta beth. Roeddem ni’n dwlu ar ddramau abswrdaidd, perfformiadau dawns gwirion a dwys: pethau sydd di magu hyder a chwilfrydedd ynof fi ers hynny.

Roeddem ni’n dwy’n cael ein diflasu gan yr un pethe, a helpodd fi i ddechre archwilio’r parchus ofn oedd yn gwneud imi deimlo parlys, weithiau, pan yn blentyn. Agorodd fy llygaid i werth perfformiad y tu hwnt i’r pulpud a’r eisteddfod. Ro’n i ‘di blino ar ddynion mewn siwtiau llwyd, y ‘Masters of Ceremonies’ hir-wyntog, jôcs noson lawen am flwmars a Meri-Jêns. Ro’n i di blino ar y foeswers llawdrwm, y ‘payoff’ o losin sdici neu’r rosèt ddibwrpas.

Roedd rhywbeth caredig, direidus a chyffrous am Buddug, os braidd yn od a meddylgar. Dwi’n ei chofio hi, a dathlu menywod cryf, doniol a digyfaddawd Cymru, heddiw.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar Gender yn Gymraeg.

Advertisements


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s